Croeso i Deithio Ymlaen
Mae Teithio Ymlaen yn brosiect yng Nghymru sydd yn gweithio gyda phobl ifanc o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr i roi llais i chi am y pethau sydd yn bwysig i chi
Dyma’r hyn sydd gan bob ifanc i’w ddweud am Deithio Ymlaen:
“Mae’n ymwneud â ni yn gwneud pethau ein ffordd ni a pheidio cael oedolion yn dweud wrthym beth i’w wneud drwy’r amser. Rydym yn helpu Sipsiwn, Roma a Theithwyr ifanc i wneud y newidiadau y maent eisiau eu gweld yn digwydd”
“Mae’n mynd â ni oddi ar y safle ac yn rhoi addysg i ni – un o’r pethau yr ydym wedi ei wneud yw datblygu perthynas dda gyda Chomisiynydd Plant Cymru trwy fod yn Llysgenhadon Cymunedol – rydym yn cynrychioli’r gymuned o Sipsiwn a Theithwyr”
“Aethom hefyd i gynhadledd ac roeddwn yn falch fy mod yno’n cynrychioli Sipsiwn a Theithwyr a hyfforddi athrawon am ein diwylliant a’n bywydau”
“Y pethau yr wyf yn eu mwynhau mwyaf yw’r ffordd y mae Teithio Ymlaen yn cael yr holl blant Sipsi ifanc i gyfarfod mwy o Sipsiwn ar draws Cymru. Mae’n gwneud i ni ddysgu mwy am yr hawliau a’r addysg a bod llawer o sefyllfaoedd nad yw Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn eu deall, pethau y gallent eu newid – ?efallai na fydd yn creu newid nawr ond gallai gael effaith ar y genhedlaeth iau”
Yn Teithio Ymlaen, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ac ateb ymholiadau siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf cyn gynted ag y gallwn – os hoffech siarad â rhywun neu drafod ein gwaith yn Gymraeg, rhowch wybod i ni trwy ein tudalen gyswllt YMA a bydd un o dîm Cymraeg Achub y Plant yn cysylltu â chi.
Nid ydym yn gallu darparu holl gynnwys ein gwefan yn Gymraeg, ond os ydynt ar gael, bydd gwefan Teithio Ymlaen yn rhoi dolenni i adnoddau a dogfennau yn Gymraeg a Saesneg.
Os hoffech fwy o wybodaeth am bolisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn ymwneud â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ewch i’r ddolen allanol hon yma: http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/communitycohesion/gypsytravellers/?skip=1&lang=cy
Am gymorth a chyngor gan Gomisiynydd Plant Cymru, cysylltwch â nhw yn http://www.complantcymru.org.uk/ neu ar 0808 801 100
Edrychwch ar adrannau Saesneg ein gwefan a’n Tudalen Sefydliadau i weld pwy arall all helpu YMA a sgroliwch drwy ein Dewislen am fwy o wybodaeth amdanom ni a gwaith Teithio Ymlaen